
Ydych chi'n poeni nad oes gennych y sgiliau mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt? Rydym yn deall fod ceisio am swydd newydd yn gallu bod yn bryderus ac yn straen, ac rydym ni yn arbenigo mewn helpu i chi wella eich cyfleoedd o ddychwelyd i'r gwaith wrth eich helpu i greu CV, ei ddosbarthu i ddarpar gyflogwyr, ac i helpu chi i wellai eich perfformiad mewn cyfweliad.
Rydym yn cynnig ystod eang o raglenni hyfforddi ac adnoddau i helpu i chi ddechrau eich gyrfa newydd.
Rydym yn cynnig ystod eang o gymorth, cyngor a gwybodaeth am ddim ar bob agwedd o gyflogaeth gan gynnwys mynediad am ddim i'r cyfleusterau a gwasanaethau canlynol:
Mae gennym Ganolfannau Cefnogaeth Cyflogaeth ym Machynlleth, y Trallwng, y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu, Ystradgynlais, Caerfyrddin, Rhydaman, a Llanelli - lle mae ein mentoriaid wrthlaw i helpu chi i wella eich siawns o ennill swydd. Mae Trac wedi cefnogi mwy na 7,000 o bobl nol i'r gwaith.
Mae Trac yn gweithio mewn partneriaeth gyda Capital Recruitment a job fit i weithredu cynlluniau o fudd-dal i gwaith yn Sir Gaerfyrddin a Phowys ar ran Jobcentre Plus.
Mae'r canolfan wedi gwella fy hunan hyder ac wedi amlinellu yr hyn sydd yn rhaid i fi wneud er mwyn dod o hyd i waith.![]()
P Royan
© Trac 2011 | Telerau & Amodau | Polisi Preifatrwydd
Mae Trac yn masnachu fel rhan o Antur Teifi | Cefnogaeth Cyflogaeth Trac yn helpu pobl yn ol i'r gwaith
Canolfannau cefnogaeth cyflogaeth yn
Machynlleth, Trallwng, Drenewydd, Llandrindod Wells, Aberhonddu, Ystradgynlais, Caerfyrddin, Ammanford, Llanelli