
Gall Trac weithio gyda chi i amlinellu rhestr o ymgeiswyr addas sydd gyda'r profiad yr ydych chi'n chwilio am. Gallwn ddarparu hyfforddiant i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y swydd a'u bod yn wybodus am eich busnes a sut y gallant gyfrannu at ei lwyddiant.
Bydd ein hymgynghorwyr cyflogi yn cadw mewn cyswllt a chi a'r ymgeisydd llwyddiannus am hyd at flwyddyn wedi cychwyn y gyflogaeth er mwyn sicrhau eu bod yn ymgartrefu a'u bod yn cwrdd â'ch disgwyliadau.
Mae Trac yn gweithio gydag unigolion er mwyn eu helpu nôl i'r gwaith. Rydym yn darparu hyfforddiant ysgogol a sgiliau chwilio am swydd. Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau i gynnig cyfloed i ennill profiad trwy leoliadau gwaith. Os ydych yn medru cynnig lleoliadau gwaith, rydym eisiau clywed gennych - gall ein hymgynghorwyr cyflogaeth ymweld â chi i weld pa gyfleoedd y gallwch gynnig, a rhagbaratoi'r darpar ymgeisydd am yr hyn sydd ar gael. Pwy a ŵyr, gall hyn fod yn gyfle i chi weld os oes modd i chi gyflogi aelod newydd i'ch tîm!
Os hoffech drafod recriwtio staff neu'r posibiliad o gynnig lleoliad gwaith yn eich sefydliad, cysylltwch â ni ar 01554 772122 neu e-bostiwch info@tractraining.org.uk
Mae gallu dweud 'mae'n rhaid i fi fynd i'r gwaith yn y bore' yn codi ysbryd yn aruthrol.![]()
D Wise, Lleoliad Gwaith 2010
© Trac 2011 | Telerau & Amodau | Polisi Preifatrwydd
Mae Trac yn masnachu fel rhan o Antur Teifi | Cefnogaeth Cyflogaeth Trac yn helpu pobl yn ol i'r gwaith
Canolfannau cefnogaeth cyflogaeth yn
Machynlleth, Trallwng, Drenewydd, Llandrindod Wells, Aberhonddu, Ystradgynlais, Caerfyrddin, Ammanford, Llanelli