
Mae Trac wedi bod yn helpu pobl nol i'r gwaith ers mwy na 15 mlynedd. Mae gennym enw da am ddarparu gwasanaeth safonol sydd yn deall eich anghenion ac yn helpu i chi ganolbwyntio ar eich bywyd gwaith. Mae Trac yn gweithio mewn partneriaeth gyda Jobfit a Capital Training Wales er mwyn gweithredu rhaglen o fudd-dal i gwaith trwy Ganolbarth a Gorllewin Cymru ar ran Jobcentre Plus.
Mae ein hmgynghorwyr wrthlaw i helpu chi i wella eich siawns o ennill swydd. Mae Trac wedi cefnogi mwy na 7,000 o bobl nol i'r gwaith. Os oes angen help gyda'ch CV arnoch, neu os ydych eisiau gwella eich sgiliau chwilio am swydd, mae help ar gael i chi yn ein Canolfan Cefnogaeth Cyflogaeth.
Mae gennym ganolfannau cefnogaeth cyflogaeth trwy Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Os hoffech drefnu apwyntiad gydag un o'r ymgynghorwyr cyflogaeth, cysylltwch â ni ar 01554 772122 neu ar info@tractraining.org.uk.
Mae Trac yn falch i gyhoeddi y byddwn yn gweithio gyda Jobfit am y 7 mlynedd nesaf i ddarparu cefnogaeth i unigolion diwaith trwy Sir Gaerfyrddin a Phowys.
Dywed Rheolwr Gweithrediadau Trac John Evans 'Rydym yn ymwybodol o'r heriau sydd yn ein hwynebu yn ystod y cyfod economaidd anodd hwn, ac rydym yn hyderus ein bod yn gallu helpu i Jobfit gyrraedd ei nod wrth weithio mewn partneriaeth. Mae Trac wedi ennill y cytundeb hwn yn erbyn cystadleuaeth frwd, ac mae'n foddhaol i ni wybod bod gwaith caled ein tim wedi ei gydnabod.
Darganfyddwch mwy am ein Cynllun Gwaith...
Mewn Archwiliad Ansawdd diweddar gan Groundworks UK fe gafodd Trac ei gydnabod fel sefydliad sydd yn dod a level arbennig o wasanaeth am y Cyrchlu Cymunedol sydd gennym.
© Trac 2011 | Telerau & Amodau | Polisi Preifatrwydd
Mae Trac yn masnachu fel rhan o Antur Teifi | Cefnogaeth Cyflogaeth Trac yn helpu pobl yn ol i'r gwaith
Canolfannau cefnogaeth cyflogaeth yn
Machynlleth, Trallwng, Drenewydd, Llandrindod Wells, Aberhonddu, Ystradgynlais, Caerfyrddin, Ammanford, Llanelli